Mae Is-Gadeirydd Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig wedi croesawu ymadawiad eu pennaeth fel cyfle ar gyfer “adolygiad dwfn” o’r corff.

Wedi 13 blwyddyn a hanner yn Gyfarwyddwr ar yr elusen sydd yn anelu i ddiogelu tirwedd ac amgylchedd Cymru, fe fydd Peter Ogden yn gadael y swydd ddiwedd y mis hwn.

Cafodd yr elusen ei sefydlu yn 1928, ac mae’n adnabyddus am ei chyfraniad tuag at wrthwynebu cynlluniau gorsafoedd pŵer a pheilonau ledled Cymru. Bellach, mae’r corff yn cael ei rhedeg rhan amser oherwydd diffyg staff.

Mae Is Gadeirydd CPRW, Vic Warren, yn canmol y Cyfarwyddwr am ei lwyddiannau – yn benodol trwy ei ymgyrchoedd ym Mhowys – ond yn croesawu’r cyfle am “newid”.

“Mae Peter wedi gwneud yn dda dros ben, ond mae’n rhaid i bob corff adolygu’r hyn maen nhw’n gwneud a newid o bryd i’w gilydd,” meddai Vic Warren wrth golwg360. “Yn sicr, dyma gyfle i’r CPRW.

“Rydym yn gobeithio edrych ar y corff yn ddyfnach, i weld os ydyn yn gweithio’n iawn. Rydym ni’n credu ein bod ni, oherwydd mae ein 14 cangen ar draws Cymru yn actif iawn ac yn gwneud yn dda – siŵr o fod yn well nag y maen nhw yn y gorffennol. Dyna un peth sydd wedi gwella dan Peter Ogden. Mae’r canghennau’n llawer mwy actif.”

Un newid sydd eisoes wedi’i weithredu yw penodiad Peter Alexander-Fitzgerald yn Gadeirydd newydd, ond mae Vic Warren yn derbyn bod saith ymddiriedolwr y corff wedi “cael trafferth” wrth ymdopi a chyflymder y newid.

“Bwrlwm yn y canghennau”

Roedd gan y CPRW rhwng 5,000 a 6,000 o aelodau dau ddegawd yn ôl a bellach dim ond 1,500 o aelodau sydd gan y mudiad, ond mae’r sefyllfa yn gwella yn ôl Vic Warren.

“Mae’r niferoedd yn cynyddu,” meddai. “Mae pethau wedi dechrau gwella, yn benodol dros y ddwy flynedd nesaf. Mae aelodaeth yn cynyddu. Mae’r bwrlwm yn y canghennau yn syfrdanol. Felly mae llawer o bethau yn gwella ond mae’n sicr yn rhaid i ni gynyddu’r aelodaeth.”