Wedi misoedd o ansicrwydd, mae’r Swyddfa Dreth wedi cyhoeddi y bydd ei chanolfan ym Mhorthmadog yn aros ar agor.

Bydd 17 o weithwyr y Gwasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ym Mhorthmadog yn cadw ei swyddi ond bydd ei swyddfa yn symud o Dŷ Moelwyn i swyddfa’r Adran Gwaith a Phensiynau yn Thedford House yng nghanol y dref.

Yn ôl y gwasanaeth, mae’r newyddion yn caniatáu iddo gadw ei dîm Cymraeg ym Mhorthmadog ac yn galluogi’r ddwy adran i chwilio am ffyrdd o weithio gyda’i gilydd “er mwyn darparu gwasanaethau i gwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg.”

“Mae ymgyrch leol wedi bod i ddiogelu swyddi yn y ganolfan alw Gymraeg ym Mhorthmadog ac mae hynny wedi cael ei gadarnhau, mi fydd tîm cyllid y wlad yn symud i rannu swyddfa efo tîm adran gwaith a phensiynau Porthmadog,” meddai Is-ysgrifennydd Cymru, Guto Bebb, wrth golwg360.

Swyddi’n ddiogel

Cadarnhaodd Guto Bebb y bydd pob un swydd yn y swyddfa ym Mhorthmadog yn cael ei diogelu.

“Mae wedi cymryd 18 mis i gael y maen i’r wal ond wrth gwrs, mae’r penderfyniad yn rhoi hyder i’r staff yn fan hyn bod eu dyfodol yn ddiogel ac mae hefyd yn dangos hyder yng ngallu tref fel Porthmadog i gynnig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer Llywodraeth Prydain.”

Y bwriad gwreiddiol oedd cau’r swyddfa erbyn 2020 ond yn ôl Guto Bebb, does yna ddim tro pedol wedi dod gan y Llywodraeth.

“Dw i ddim yn credu mai newid oedd o fel y cyfryw, y bwriad oedd bod yna fuddsoddiad ychwanegol i wasanaethau yma yng Nghymru a mwy o swyddi yng Nghymru gan gyllid y wlad.

“Yr hyn sydd wedi digwydd ydy ein bod ni wedi dadlau’n fewnol o fewn y Llywodraeth ac wedi cael perthynas gadarnhaol efo dwy adran o fewn y Llywodraeth i awgrymu y byddai darpariaeth y gwasanaeth yma yn llawer iawn haws os petawn ni’n adeiladu ar arbenigedd sydd wedi cael ei ddatblygu ym Mhorthmadog dros gyfnod o 20 mlynedd.”

Creu swyddi ychwanegol?

Dywed y bydd yn hoffi gweld mwy o swyddi yn cael eu creu o’r bartneriaeth rhwng yr adran gwaith a phensiynau a’r swyddfa dreth.

“Dyna ydy’r her i’r ddwy adran rŵan sydd wedi dewis cydweithio, mae yna her yn mynd i godi rŵan i adran gwaith a phensiynau a chyllid y wlad i weld sut maen nhw’n gallu datblygu ac adeiladu ar y bartneriaeth yma.

“Felly mae cyfle yn bodoli dw i’n credu i ddatblygu arbenigedd fan hyn o ran gwasanaethau i’r cwsmer drwy gyfrwng y Gymraeg i adrannau Llywodraeth Prydain.

“Dw i’n mawr obeithio bod hwn yn ddechrau’r daith, nid y diwedd, ond ar y funud dw i’n credu mai dathlu’r ffaith ein bod ni wedi diogelu’r swyddi sydd eisoes yn bodoli ym Mhorthmadog rydan ni’n gwneud.”