Pencadlys Cyngor Gwynedd
Mae neges gyfrinachol gan un o gynghorwyr newydd Plaid Cymru yn ninas Bangor, at ei chyd-aelodau Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, yn awgrymu fod yna wahaniaeth barn o fewn y grwp ar fater cynllun i ganiatau bron i 8,000 o dai newydd yng Ngwynedd a Môn.

Fe fydd cynghorwyr yn pleidleisio ar y cynllun ddydd Gwener yr wythnos nesaf, Gorffennaf 28.

Mae neges gyfrinachol gan Menna Baines, cynghorydd ward Pentir,  sydd wedi dod i law golwg360, yn awgrymu fod yna anghytuno – a ffraeo posib – o fewn grwp Plaid Cymru, y blaid sy’n rheoli Cyngor Gwynedd.

“Fel y cofiwch, cawsom darfodaeth fywiog ynghylch y mater hwn yn ein cyfarfod diwethaf ar 12 Gorffennaf,” meddai Menna Baines wrth ei chyd-Bleidwyr, mewn neges ddyddiedig Gorffennaf 18 (dydd Mawrth yr wythnos hon) cyn rhestru ei phryderon ac yn awgrymu effaith posib y penderfyniad ar ganlyniad etholiadau San Steffan a Chynulliad yn y dyfodol.

“Pleidleisio yn erbyn y Cynllun y byddaf i,”  meddai wedyn.

“Onid ydi’r amser wedi dod am weithredu radical? Onid ydi hi’r hen bryd troi cynllunio yng Ngwynedd yn fater gwleidyddol gan osod dŵr clir gwyrdd rhyngon ni a’r Blaid Lafur? Y ffordd o droi cynllunio yn fater gwleidyddol ydi gwrthod y Cynllun yn ei siâp presennol.

“Mae gwrthod y Cynllun Datblygu yn gam difrifol i’w gymryd – mae disgwyliad statudol arnom fel Cyngor  i baratoi Cynllun o’r fath. Rwy’n atodi dolen am y drafodaeth a fu yng Nghyngor Bro Morgannwg ynghylch union yr un mater.”

Peryglon fotio o blaid 

“Wrth fabwysiadu’r Cynllun,” meddai Menna Baines, “mi fyddwn yn creu hollt chwerw yn y mudiad cenedlaethol yng Ngwynedd gan ddieithrio ymhellach rai pobl a ddylai fod yn gefnogwyr craidd i ni.

“Os ydi’r gwrthbleidiau ar Gyngor Gwynedd wedi gwneud eu gwaith cartref, hefo carfan arwyddocaol o aelodau PC yn anwybyddu’r chwip, mae ’na bosibilrwydd y byddai’r Cynllun yn cael ei wrthod beth bynnag. Ond byddai’r elw gwleidyddol yn llawer mwy petai PC yn ei wrthwynebu’n ffurfiol.

“Gallem wynebu etholiad cyffredinol arall o fewn y chwe mis nesaf. Fydd mabwysiadu’r Cynllun hwn yn gwneud dim lles i ragolygon Hywel (Williams, Aelod Seneddol Arfon).

“Ond o wrthod y Cynllun hwn, fe allem droi cynllunio yn fater lleol allweddol yn yr etholiad cyffredinol nesaf,” medadi Menna Baines. “Byddai mantais etholiadol o wneud hynny. O gyfeiriad y chwith, y canol a’r dde mae’r hinsawdd wleidyddol ar hyn o bryd yn ffafrio lleisiau gwrthsefydliadol sy’n herio’r drefn.”

Y neges

Fel hyn y mae Menna Baines yn dadlau ei hachos yn ei neges gyfrinachol at aelodau Plaid Cymru, Cyngor Gwynedd, ac yn dweud pam mai pleidleisio yn erbyn y Cynllun Datblygu y bydd hi:

(a) am fod nifer rhy uchel o dai newydd yn fan cychwyn iddo.

(b) am nad ydi o’n darparu’n ddigonol ar gyfer anghenion lleol. Dylai anghenion pobol leol a’r angen enfawr am dai fforddiadwy a thai addas i’w gosod ar rent i deuluoedd ifanc lleol fod yn gwbwl greiddiol a chanolog ynddo fo.

(c) am fod y cymal newydd ynghylch ‘lliniaru’ effeithiau negyddol ar y Gymraeg yn beryglus o benagored.

(ch) am na wnaethpwyd asesiad annibynnol ac arbenigol o effeithiau’r Cynllun ar yr iaith Gymraeg

(d) am y byddai’n rhwystro codi tai ar raddfa fechan mewn rhai pentrefi (h.y. y math o godi tai sy’n aml yn diwallu anghenion lleol ac yn cynnal hyfywedd economaidd ac ieithyddol ein pentrefi).

Dan y pennawd ‘Ystyriaethau Pellach’, mae Menna Baines yn rhestru’r pryderon canlynol:

1. Mae tensiwn sylfaenol rhwng cynllunio iaith yng Ngwynedd a meddylfryd Prydeinig yr Arolygiaeth Gynllunio.

2. Mae pawb sy’n gweithio ym maes cynllunio iaith – a’r rhan fwyaf o gynghorwyr PC yn dawel bach yn eu calonnau – yn gwybod hynny’n iawn.

3. Amlygiad creulon o’r tensiwn hwnnw ydi’r Cynllun Datblygu hwn.

4. Nid cynllun tai sy’n seiliedig ar anghenion y boblogaeth frodorol a lleol ydi o. Mi fydd o’n hyrwyddo ymhellach y newid demograffig a’r newid ym mhroffil ieithyddol Gwynedd a Mȏn.

5. O ran cynllunio ieithyddol ein nod ni yng Ngwynedd ydi cynyddu canran siaradwyr Cymraeg, ei gynyddu o 5%. ‘Dan ni i gyd yn gwybod fod y cynllun hwn yn mynd yn groes i hynny.

Dyfrig Siencyn – “amrywiaeth barn”

“Mae yna amrywiaeth barn ymysg aelodau ar y Cynllun Datblygu Lleol a thrafodaeth fywiog,” meddai arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn, mewn datganiad.

“Y mae’r Cynllun Datblygu Lleol bron a chyrraedd pen ei daith ar ôl chwe blynedd o baratoi a chasglu gwybodaeth ac ymgynghori eang. Yn ystod y daith mae aelodau’r Cyngor wedi cael sawl cyfle i fynegi barn ac i gyfrannu at ei lunio.

“Yn ystod yr archwiliad cyhoeddus, cyflwynwyd tystiolaeth i’r Arolygydd Cynllunio (Arolygiaeth Cynllunio Cymru a Lloegr) a nawr cyhoeddwyd ei adroddiad terfynol.

“Yr argymhelliad i’r Cyngor ddydd Gwener nesaf yw mabwysiadu’r Cynllun fel sail gadarn i benderfyniadau cynllunio dros y 10 mlynedd nesaf. Mae sawl agwedd flaengar iawn ynddo fydd yn amddiffyn a hybu ein cymunedau. Gall gwrthod y cynllun ein gadael heb gynllun datblygu a allai arwain at ddiffygion sylweddol yn ein gallu i reoli datblygu cynllunio i’r dyfodol ar draws cymunedau Gwynedd.”

Mae cynghorwyr eraill Plaid Cymru wedi dweud nad ydyn nhw’n gwneud sylw ar neges Menna Baines, ar gyfarfodydd grwp Plaid Cymru, nac am Gynllun Datblygu Gwynedd a Môn.