Bydd gweithwyr tai cymunedol yng Nghwmbrân yn streicio am yr ail ddiwrnod heddiw er mwyn protestio yn erbyn toriad o £3,000 yn eu cyflogau.

Cyn y toriad mi roedd gweithwyr cynorthwyol Tai Cymunedol Bron Afon yn derbyn cyflog o £23,572 y flwyddyn, ond bellach maen nhw’n derbyn £20,416.

Yn ystod trafodaethau ddydd Mercher mi wnaeth undeb Unsain fynnu bod gan Bron Afon ddigon o arian i fedru parhau i dalu’r cyflog gwreiddiol i’w gweithwyr.

Mae dau wleidydd sy’n cynrychioli’r ardal, yr Aelod Seneddol, Nick Thomas-Symonds, a’r Aelod Cynulliad, Lynne Neagle, wedi cyfleu cefnogaeth at y brotest ac yn bwriadu cynnal cyfarfod â Bryn Afon.

“Camgymeriad mawr”

“Dylai fod Bron Afon yn teimlo cywilydd dros eu diffyg egwyddorion trwy gymryd miloedd o bunnau oddi wrth weithwyr sy’n gofalu am bobol mewn angen,” meddai Ysgrifennydd cangen Unsain Torfaen, Cheryl Morgan.

“Maen nhw wedi trin staff yn ofnadwy ac wedi gwneud staff yn sâl gyda’r pwysau o geisio byw ar gyflogau is … Gobeithiwn bydd y gweithwyr cynorthwyol â’u hagwedd penderfynol, yn llwyddo dangos i’w cyflogwyr eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad mawr sydd angen cael ei gywiro ar frys.”