Mae ymchwil ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Queen’s yn Belfast yn dangos bod disgyblion TGAU eisiau mwy o ddewis wrth benderfynu pa bynciau i’w hastudio, a llai o bwysau i ddilyn pynciau penodol.

Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) fu’n gyfrifol am yr ymchwil yng Nghymru.

Cafodd disgyblion mewn 18 o ysgolion yng Nghymru eu holi, ynghyd â disgyblion o 20 o ysgolion yng Ngogledd Iwerddon.

Roedd yr ymchwil yn gyfuniad o holiadur a sesiynau trafod ar gyfer 1,600 o fyfyrwyr ar draws y ddwy wlad.

Mae’r canlyniadau wedi’u cyhoeddi fel rhan o ymchwil gan Sefydliad Addysg Coleg Prifysgol Llundain (UCL).

Canlyniadau’r ymchwil

Daeth yr ymchwil i’r casgliad fod y meysydd llafur a’r dulliau asesu ar gyfer TGAU yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn dra gwahanol i’w gilydd, er bod yr arholiadau’n debyg iawn yn y tair gwlad.

Dywedodd cyd-awdur yr ymchwil, yr Athro Jannette Elwood o Brifysgol Queen’s: “Roedd y data a gafodd ei gasglu yn ystod yr astudiaeth yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â dewis a thegwch mewn perthynas â’r anghydraddoldeb oedd wedi’i brofi gan fyfyrwyr drwy eu rhaglenni TGAU.

“Ar y cyfan, fe wnaethon ni ddarganfod fod myfyrwyr yn teimlo bod eu dewisiadau ar lefel TGAU yn gyfyng ac fe godon nhw bryderon fod dewis pynciau a manylebau TGAU yn bethau nad oedden nhw erioed wedi bod yn rhan o ymgynghoriad yn eu cylch.

“Roedd y myfyrwyr yn teimlo y gallen nhw ac y dylen nhw fod yn rhan o ymgynghoriad am y materion polisi uwch megis y cwricwlwm maen nhw’n ei ddilyn, y pynciau maen nhw’n gallu eu dewis ar lefel TGAU a sut maen nhw’n cael eu hasesu.”

Fe ddaeth yr ymchwil i’r casgliad fod gan ddisgyblion farn soffistigedig am y cwricwlwm, pynciau sydd ar gael a dulliau asesu, ac y dylid ymgynghori â nhw ynghylch eu dyfodol.

Mae hefyd yn argymell y dylid ymgynghori â disgyblion wrth ddiwygio’r ffordd y caiff TGAU ac arholiadau pwysig eraill eu hasesu.