Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion yn dilyn damwain ffordd ddifrifol ben bore heddiw ym mhentref yr Eisteddfod Genedlaethol.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 4.30yb i ddamwain ar ffordd y B5109 yn Bodedern, Ynys Mon. Roedd car MG du, a dau ddyn yn teithio ynddo, wedi mynd ar ei ben i wal.

Mae’r ddau ddyn wedi’u cludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol, ond heb fod yn anafiadau sy’n bygwth eu bywydau.

“Mae ymchwiliad ar y gweill,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.

Fe fydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn cael ei chynnal ar dir ar gyrion pentref Bodedern rhwng Awst 4-12 eleni.