Mae un o bwyllgorau Tŷ’r Arglwyddi wedi rhybuddio y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cael “effaith sylweddol” ar Gymru.

Yn eu hadroddiad, mae Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd yn rhybuddio bod yn rhaid i’r Deyrnas Unedig ofalu am “anghenion penodol pob un o’r gwledydd datganoledig” yn ystod Brexit – ac mae’n cyfeirio’n benodol at anghenion Cymru.

Mae’r pwyllgor yn tynnu sylw at “ddibyniaeth” economi Cymru ar y farchnad sengl ac yn rhybuddio byddai’r wlad yn “fwy agored i niwed” nag y gwledydd datganoledig eraill os fydd mynediad i’r farchnad yn cael ei gyfyngu.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi fod yn rhaid sicrhau nad yw San Steffan yn defnyddio Brexit i gipio pwerau dros feysydd sy’n cynnwys amaethyddiaeth a physgodfeydd, rhag y gwledydd datganoledig.

Galw am gydweithio

“Bydd effaith Brexit ar ddyfodol y Deyrnas Unedig yn ddwys ac yn anodd ei rhagweld,” meddai’r Arglwydd Michael Jay, sydd yn aelod o’r pwyllgor.

“Bydd yn rhaid i Lywodraeth  y Deyrnas Unedig barchu’r sefydliadau datganoledig. Dydy gwrando yn unig ddim yn ddigon. Rhaid newid y ffordd y man nhw’n ymdrin â Brexit ar sail anghenion y gwledydd datganoledig.

“Yn ogystal â hynny, mi fydd yn rhaid i’r gwledydd datganoledig weithio gyda, nid yn erbyn, llywodraeth y Deyrnas Unedig, er mwyn sicrhau ein bod yn derbyn y Brexit gorau i Brydain oll.”