Mae mudiad iaith wedi cynnal protest yn erbyn siop Lidl ym Mhorthmadog, a hynny oherwydd y diffyg gwasanaethau Cymraeg.

Fe fu grŵp o ymgyrchwyr yn gwrthdystio y tu allan i siop Lidl sydd newydd ail-agor yn dilyn buddsoddiad mawr yn ei hail-wneud. Daliodd y protestwyr arwyddion yn mynnu ‘Safonau Iaith i’r Sector Breifat’ fel rhan o ymgyrch y mudiad i gryfhau’r ddeddf iaith.

“Mae Lidl yn amharchu’r Gymraeg ac ni ddylai fod rhaid i ni brotestio i gael gwasanaethau Cymraeg sylfaenol,” meddai Manon Elin, Cadeirydd grwp hawl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae nifer fawr o siopau mawrion ac archfarchnadoedd yn anwybyddu anghenion y Gymraeg ledled Cymru. Mae nifer o enghreifftiau, fel Lidl, lle mae darpariaethau Cymraeg archfarchnadoedd wedi lleihau wrth iddynt agor neu ail-frandio eu siopau.

“Byddai deddfwriaeth yn sicrhau na fyddai hyn yn digwydd, a fyddai yn y pendraw yn arwain at welliant sylweddol.

“Gan fod archfarchnadoedd yn rhan o fywyd bob dydd llawer o bobl, mae’n bwysig iawn bod modd siopa yn Gymraeg,” meddai wedyn. “Rydyn ni’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn manteisio ar y cyfle i gynnwys archfarchnadoedd, a gweddill y sector breifat, yng nghwmpas Mesur y Gymraeg wrth iddyn nhw fynd ati i’w gryfhau.”