Mae golwg360 yn deall y gallai un o dafarndai Cymraeg enwocaf Caerdydd gael ei gwerthu i gwmni cadwyn o Loegr.

Mae’n debyg fod perchennog tafarn y Mochyn Du yn ystyried gwerthu i’r cwmni Brewhouse and Kitchen – ac mae un ffynhonnell wedi mynegi pryder am effaith posib hyn ar Gymreictod y lle.

Mae gan Brewhouse and Kitchen 19 o dafarndai ar hyd a lled Lloegr gan gynnwys Bryste, Caer, Nottingham, Islington, Portsmouth a Southampton.

Mae tua ugain o staff bar yn gweithio yn y Mochyn Du ar hyn o bryd a’r rhan fwyaf yn “deall Cymraeg neu yn rhugl” yn ôl y ffynhonnell.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan berchennog y Mochyn Du a’r cwmni Brewhouse and Kitchen.

Cefndir
Mae’r dafarn ar gyrion gerddi Sophia yn enwog am ei Chymreictod ac am gefnogi’r byd chwaraeon yng Nghymru.

Dafliad carreg oddi wrthi mae Stadiwm SWALEC, Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru ac mae hefyd yn gyrchfan boblogaidd adeg gemau rygbi Cymru yng Nghaerdydd.

Ar un adeg roedd yr adeilad yn borthordy i’r castell cyn troi’n swyddfeydd a’i addasu wedyn yn dafarn.