Mae dau berson wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau brawychol yn dilyn cyrch gan yr heddlu mewn tri eiddo yng Nghaerdydd.

Dywedodd Uned Wrth-Frawychiaeth y Gogledd Ddwyrain (NECTU) bod y dyn 34 oed a’r ddynes 36 oed, o Gaerdydd, yn cael eu holi mewn gorsaf yr heddlu yn lleol.

Daw’r cyrchoedd yn dilyn cydweithio rhwng NECTU a’r Uned Wrth-Frawychiaeth ac Eithafiaeth yng Nghymru (WECTU) dros y tair wythnos ddiwethaf. Mae wyth o bobl wedi cael eu harestio am gyfres o droseddau.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd  Lee Porter, o WECTU eu bod yn parhau i ofyn am gymorth y cyhoedd ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth neu bryderon am eithafiaeth i ffonio’r heddlu ar 0800 789321.