Yr hen eglwys sydd wedi dymchwel yn Sblot, Caerdydd Llun: @SPIRITismywolf/PA Wire
Mae diffoddwyr tân yn chwilio am berson ar ôl i adeilad ddymchwel ger rheilffordd yng Nghaerdydd, meddai’r gwasanaeth tân.

Mae trenau rhwng Casnewydd a Chaerdydd wedi cael eu gohirio am y tro tra bod yr heddlu, gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaeth tân yn delio a’r digwyddiad yn ardal Sblot.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod dau weithiwr wedi cael mân anafiadau tra bod diffoddwyr tân yn chwilio am drydydd person. Mae offer arbenigol yn cael ei ddefnyddio i chwilio am y person, meddai.

Credir bod y tri yn gweithio ar hen eglwys yn Heol Sblot pan gafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 2.50yp ddydd Mawrth. Roedd disgwyl i’r adeilad gael ei ddymchwel.

Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail bod ’na wasanaeth cyfyngedig rhwng Caerdydd a Chasnewydd erbyn hyn.

Mae’r heddlu’n cynghori gyrwyr i osgoi’r ardal o gwmpas Stryd Pearl yn Sblot ar hyn o bryd.