Lynette White Llun: Heddlu De Cymru
Mae adolygiad i achos o lygredd yn erbyn swyddogion o Heddlu De Cymru wedi canfod mai “camgymeriadau dynol” oedd wrth wraidd cwymp yr achos ac nid “malais.”

Cafodd mwy na £30 miliwn ei wario ar yr ymchwiliad i wyth swyddog o Heddlu De Cymru ynglŷn â honiadau eu bod wedi gwyrdroi cwrs cyfiawnder yn achos llofruddiaeth Lynette White o Gaerdydd yn 1988.

Wedi’r llofruddiaeth fe gafodd tri dyn diniwed eu carcharu cyn i’w euogfarnau gael eu dileu, gyda’r llofrudd go iawn yn cael ei ddal degawd yn ddiweddarach.

Cafodd achos y swyddogion heddlu yn 2011 ei oedi oherwydd pryderon fod dogfennau ar goll, ac fe gawsant eu darganfod maes o law mewn uned storio –  ond erbyn hynny roedd y gweithredoedd cyfreithiol wedi dod i ben.

“Rheoli’n wael”

Cafodd adolygiad mawr i achos cwymp yr achos llys ei gyhoeddi mwy na ddwy flynedd yn ôl a’i arwain gan y cyfreithiwr Richard Horwell QC.

Mae’r adroddiad, gafodd ei ryddhau heddiw (Gorffennaf 18) yn crynhoi gan ddweud bod “gormod o agweddau’r ymchwiliad a’r erlyniad wedi’u rheoli’n wael.”

“Ond fy mhrif ganfyddiad …yw bod ffydd wael ddim wedi chwarae rhan yng nghamgymeriadau’r swyddogion heddlu na chyfreithwyr yr erlyniad,” meddai Richard Horwell.

“Methiannau dynol a arweiniodd at gwymp yr achos, nid malais.”

Mae’r adroddiad yn cynnwys 17 argymhelliad i’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron er mwyn gwella’r broses o ddatgelu tystiolaeth.

Cefndir

Cafodd achos ei ddwyn yn erbyn wyth cyn-heddwas ar gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn yr ymchwiliad i lofruddiaeth Lynette White yng Nghaerdydd yn 1988 pan gafodd tri dyn – Tony Paris, Yusef Abdullahi a Stephen Miller – eu carcharu ar gam.

Cafodd llofrudd Lynette White, Jeffrey Gafoor, 38, o Lanharan ei garcharu 10 mlynedd yn ddiweddarach.