Mai Parry Roberts (llun - Urdd Gobaith Cymru)
Mae’r Urdd wedi penodi Prif Weithredwr dros dro i fod yng ngofal y mudiad wedi i Sioned Hughes gytuno i adael ei swydd yr wythnos diwethaf.

Mai Parry Roberts fydd yn cymryd yr awenau dros dro, ac mae wedi gweithio i’r mudiad cyn hyn fel Dirprwy Brif Weithredwr tan fis Rhagfyr 2016, ynghyd â Chyfarwyddwr Busnes.

Roedd Sioned Hughes wedi bod yn ei swydd ers llai na dwy flynedd, ac roedd adroddiadau y bu anghydfod rhyngddi â rhai o gyfarwyddwyr y mudiad.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Urdd y bydd Mai Parry Roberts yn “gweithio’n rhan amser yn y rôl hyd nes y bydd penodiad ar gyfer swydd y Prif Weithredwr”.