Cartref Golfal Preswyl Bodlondeb (Llun: Cyngor Ceredigion)
Roedd 250 yn bresennol mewn cyfarfod yn Aberystwyth neithiwr, er mwyn trafod dyfodol cartref preswyl yno.

Mae Cyngor Ceredigion yn ymgynghori ar gynlluniau i gau Cartref Gofal Preswyl  Bodlondeb ym Mhenparcau sydd yn colli £400,000 y flwyddyn. Bydd ymgynghoriad y cyngor yn para tan Fedi 25.

Cafodd y cyfarfod ei gynnal yn Ysgol Llwyn yr Eos nos Lun, a’i gadeirio gan yr Aelod Cynulliad lleol, Elin Jones. Cyn y cyfarfod, roedd tua 100 o bobol wedi ymuno â gorymdaith mewn protest yn erbyn y cynlluniau.

Y dyfodol

Mae 33 o swyddi yn y fantol ac os yw’r cartref yn cau mi fyddai’n rhaid i’r 11 preswylydd ddod o hyd i gartrefi newydd.

Er bod 44 o ystafelloedd gwely yn yr adeilad, dim ond 26 sy’n gallu cael eu defnyddio am nad yw’r gweddill yn cyrraedd y safonau angenrheidiol.

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Ceredigion am ymateb.