Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates
Mi fydd manylion pellach am Fanc Datblygu Cymru yn cael eu cyhoeddi heddiw gan Lywodraeth Cymru.

Bydd Banc Datblygu Cymru yn anelu i gynhyrchu buddsoddiadau gwerth biliynau o bunnoedd yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf.

Mi fydd yn cael ei lansio yn ffurfiol ym mis Hydref eleni ac mae disgwyl y bydd yn darparu £80 miliwn y flwyddyn ac yn diogelu dros 5,500 o swyddi yn flynyddol.

Mae’r banc yn cymryd lle sefydliad Cyllid Cymru ac mi fydd ei bencadlys wedi ei leoli yn Wrecsam.

“Cymorth i fusnesau”

“Yn sgil cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru o’r achos busnes, dw i’n hapus i gadarnhau y bydd Banc Datblygu Cymru yn weithredol erbyn yr Hydref,”  meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

“Y Banc Datblygu fydd y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig, ac mi fydd yn mynd i’r afael â methiannau’r farchnad o fewn cyllid busnesau, ac yn darparu cymorth i fusnesau ledled Cymru er mwyn eu galluogi i fod yn fwy ac yn gryfach.”

Cronfa Busnes Cymru

Bydd £35 miliwn o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ychwanegu at Gronfa Busnes Cymru gan olygu mai cyfanswm newydd y gronfa yw £171 miliwn.

Mae disgwyl y bydd cyllid pellach ar gyfer Banc Datblygu Cymru yn cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach yn y flwyddyn.