Llun: PA
Fe allai pobol ifanc 16 ac 17 oed gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau nesa’r cynghorau fel rhan o fesur newydd gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Ysgrifennydd dros Lywodraeth Leol, Mark Drakeford, yn galw ar bobol i gymryd rhan mewn ymgynghoriad sy’n cynnwys “newidiadau mawr” i etholiadau lleol.

Ymysg y cynigion mae gostwng yr oed pleidleisio o 18 i 16 oed ynghyd â chyflwyno pleidleisio electronig.

Fe fydd yr ymgynghoriad yn para 12 wythnos ac os daw cynigion y Bil Llywodraeth Leol i rym, dyma fydd y newid mwyaf i system etholiadol Cymru ers 1970, pan gafodd pobol 18 oed yr hawl i bleidleisio.

Pecyn ‘arloesol’

 

“Does dim rheswm pam fod pobol ifanc 16 a 17 oed yn gallu priodi, talu trethi, ac ymuno â’r fyddin ond ddim yn gallu pleidleisio yn ein hetholiadau,” meddai’r Ysgrifennydd Cabinet Mark Drakeford.

Ychwanegodd nad oes rheswm “ein bod yn gallu gwneud cynifer o’n tasgau dyddiol ar-lein, ond ddim yn gallu pleidleisio ar-lein.”

Am hynny dywedodd ei fod yn “annog pawb i leisio’u barn am y pecyn sylweddol ac arloesol hwn o ddiwygiadau etholiadol rydym yn eu cyflwyno heddiw.”

 

Cydweithio

Mae’r ymgynghoriad yn codi cwestiynau ynglŷn â newid y diwrnod pleidleisio ynghyd ag archwilio gorsafoedd pleidleisio mwy cyfleus i annog mwy i daro’u pleidlais.

Mae sylw i ddyfodol pleidlais pobol o dramor sy’n byw yng Nghymru adeg etholiadau lleol wedi i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ac un o brif argymhellion y mesur yw annog y 22 awdurdod lleol i gydweithio fesul rhanbarth sef – y gogledd; y canolbarth a’r de orllewin; a’r de ddwyrain.

Fe fyddai aelodau o bob awdurdod yn cynrychioli ar bwyllgorau cyd-lywodraethu i gydweithio o ran yr economi, cynllunio a thrafnidiaeth ynghyd â rhai materion addysg.

‘Gwir ddiddordeb’

Mae Cyfarwyddwr Cymdeithas Ddiwygio Etholiadol Cymru, Jess Blair, wedi croesawu’r cyhoeddiad gan ddweud ei fod yn “cwmpasu ystod eang o bethau y credwn y gallai wella’r ffordd y mae gwleidyddiaeth yn gweithio yng Nghymru.”

Dywedodd fod refferendwm yr Alban yn enghraifft o lwyddiant pleidlais 16 ac 17 oed “gyda 75% yn pleidleisio a 97% yn dweud y byddent yn pleidleisio mewn etholiadau yn y dyfodol.”

Yn ogystal dywedodd Prif Weithredwr yr elusen Llamau i bobol ifanc, Frances Beecher – “mae nifer y bobol ifanc 18-25 oed a bleidleisiodd yn yr Etholiad Cyffredinol diweddar yn dangos bod gan bobol ifanc wir ddiddordeb mewn siapio polisïau eu gwlad ac mae angen i ni roi sylw i hynny.”

“Gosod cynsail”

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Siân Gwenllian wedi croesawu’r cynnig i ostwng yr oed pleidleisio ac yn gobeithio bydd y cam yn “gosod cynsail i etholiadau eraill.”

“Mae llais a chyfraniad pobl ifanc i’r broses ddemocrataidd yn hanfodol. Dyma gam i’w groesawu er mwyn denu diddordeb cenhedlaeth newydd o bleidleiswyr ledled Cymru,” meddai Siân Gwenllian.

“Trwy ostwng yr oedran pleidleisio i 16, yr ydym yn agor democratiaeth i genhedlaeth newydd o bleidleiswyr mewn cyfnod pan fo un llywodraeth ar ôl y llall yn San Steffan a Chymru wedi siomi’r genhedlaeth hon.

“Nawr bod yr oedran pleidleisio i gael ei ostwng i 16 ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, gobeithio y bydd hyn yn gosod cynsail i etholiadau eraill. Ac yr wyf yn mawr obeithio y bydd pobl ifanc yn  manteisio ar y cyfle hwn ac yn pleidleisio dros y newid maent am ei weld.”