Stephen Hough (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae dyn a gafwyd yn euog o dreisio a lladd merch 15 oed yn 1976 wedi ei garcharu am 12 mlynedd.

Cafodd Stephen Hough, 58, ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw, pedwar degawd ers iddo ladd  Janet Commins yn y Fflint.

Treuliodd dyn arall, Noel Jones chwe blynedd dan glo wedi iddo bledio’n euog i ddynladdiad. Mae’n mynnu y cafodd ei “orfodi” i wneud cyffesiad ffals gan yr heddlu.

Llwyddodd yr heddlu i gysylltu Stephen Hough â marwolaeth y ferch pan wnaeth swyddogion gymryd sampl o’i DNA y llynedd, a’i gymharu â thystiolaeth o safle’r drosedd.

Cafwyd Stephen Hough yn euog o ddynladdiad, treisio ac ymosod yn rhywiol yn Llys y Goron yr Wyddgrug wythnos ddiwethaf. Fe’i cafwyd yn ddieuog o lofruddiaeth.


Janet Commins (Llun: Heddlu'r Gogledd trwy law ei theulu)
“Rhwygo’n ddarnau”

Nid oedd Eileen Commins, mam y ferch, yn y llys ar gyfer yr achos, ond mewn datganiad  a gafodd ei ddarllen ar ran y teulu, dywedodd bod ei bywyd hi a’i gwr, Ted, wedi’u “rhwygo’n ddarnau” yn dilyn  marwolaeth eu merch. Bu farw tad Janet Commins rai blynyddoedd yn ol yn dilyn salwch hir.

Clywodd y llys bod Stephen Hough wedi ei garcharu yn y gorffennol am bum mlynedd, wedi iddo grogi derbynnydd gwesty tra’n aelod o’r fyddin yn yr Almaen.

 “Dim edifeirwch”

“Rydych chi wedi dangos dim edifeirwch o gwbl am yr hyn y gwnaethoch chi i’r ferch ifanc yna,” meddai’r barnwr Mr Ustus Clive Lewis wrth gyhoeddi’r ddedfryd. “Roeddech chi siŵr o fod yn credu eich bod wedi osgoi cymryd cyfrifoldeb am eich troseddau.”

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Iestyn Davies o Dîm Digwyddiadau Difrifol Heddlu’r Gogledd: “Rwyf yn gobeithio bydd dedfrydu Stephen Anthony Hough,  yn dod â rhywfaint o gyfiawnder i fam, teulu a ffrindiau merch ysgol 15 oed a laddwyd yn ddidrugaredd yn y Fflint 40 mlynedd yn ôl.

“Dioddefodd Janet Commins ymosodiad arswydus,  estynedig oedd â rhyw yn gymhelliant iddo ym mis Ionawr 1976 ac mae’r effaith ar ei theulu, ffrindiau a’r gymuned gyfan yn anferthol. Mae Hough bellach yn y carchar ble dylai fod.”

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn cynnal ymchwiliad i’r modd yr oedd Heddlu Gogledd Cymru wedi delio gyda’r achos gwreiddiol.