Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi tynnu sylw at “nifer fawr o fethiannau sylweddol” o ran y modd yr oedd bwrdd iechyd yn trin cytundebau ymgynghori adnoddau dynol.

Mewn adroddiad mae’r Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas, yn cyfeirio at gytundebau yr oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi dyfarnu i RKC Associates Ltd rhwng mis Tachwedd 2014 a mis Mehefin 2015.

Yn ôl yr adroddiad doedd dyfarniad y cytundebau ddim yn cydymffurfio â chanllawiau’r bwrdd iechyd ac felly doedd y bwrdd methu profi eu bod wedi ymddwyn mewn modd “teg, tryloyw na chyfreithlon.”

Cafodd y cytundebau eu dyfarnu er mwyn llenwi bwlch gwaith o fewn y bwrdd iechyd ar ôl i Gyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Trefniadol adael ei swydd ar secondiad ar fyr rybudd.

Mi wnaeth unig Gyfarwyddwr RKC Associates Ltd ar y pryd dderbyn swydd Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Trefniadol pan adawodd y bwrdd yn barhaol, dan amodau “nad oedd yn ddigon tryloyw.”

“Methiannau sylweddol”

“Dyma’r tro cyntaf yr ydw i, fel Archwilydd Cyffredinol, wedi cyhoeddi adroddiad ar gorff o fewn y GIG er budd y cyhoedd,” meddai’r Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas.

“Cafwyd nifer fawr o fethiannau sylweddol, ac roedd gweithredoedd y Bwrdd Iechyd yn llawer is na’r safonau disgwyliedig. Parodd hynny i mi gymryd y cam hynod o anarferol hwn.

“Yr wyf wedi cyhoeddi’r adroddiad hwn i dynnu sylw at y methiannau hyn, i ddwyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gyfrif, a chan obeithio y bydd sefydliadau eraill yn rhoi ystyriaeth iddo, ac na fyddant yn ailadrodd y camgymeriadau hyn.”