Andrew 'Tommo' Thomas
Mae BBC Cymru wedi cadarnhau mai Elen Pencwm fydd wrth y llyw ar Radio Cymru yn ystod prynhawniau’r wythnos hon tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i sylwadau’r cyflwynydd Andrew Thomas – Tommo.

Mae golwg360 ar ddeall i’r cyflwynydd wneud sylw rhywiol am ferched yn y gynulleidfa wrth gyflwyno rhwng artistiaid yng Ngŵyl Nôl a Mla’n yn Llangrannog ddechrau’r mis.

Nid yw’r BBC wedi cadarnhau beth oedd natur y gŵyn nac am ba hyd y bydd yr ymchwiliad yn parhau.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru – “Rydym wedi derbyn cwyn ac yn ymchwilio i’r mater. Tra bo’r ymchwiliad yn parhau, ni fydd Tommo yn darlledu ar BBC Radio Cymru.”

Mae Tommo fel arfer yn cyflwyno ar Radio Cymru rhwng 2 a 5yp rhwng dydd Llun a dydd Iau – ond mae amserlen yr wythnos hon wedi’i newid i ddangos mai Elen Pencwm fydd yn cyflwyno’i raglen am y tro.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Gŵyl Nôl a Mla’n wrth golwg360 nad ydynt am wneud sylw am y mater.