Mae mwy na 3,700 o swyddi wedi cael eu creu a’u diogelu yng Nghymru yn sgil buddsoddiadau mewn cwmnïoedd bach a chanolig, meddai Llywodraeth Cymru.

Roedd Cyllid Cymru a chyd-fuddsoddwyr wedi buddsoddi £136 miliwn mewn busnesau yng Nghymru yn ystod flwyddyn ariannol 2016/2017.

Cafodd £56.5 miliwn ei fuddsoddi mewn mentrau bach a chanolig yng Nghymru sydd yn gynnydd o £10 miliwn o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Mae Cyllid Cymru yn defnyddio arian gan Lywodraeth Cymru a buddsoddwyr eraill er mwyn buddsoddi yng nghwmnïau yng Nghymru.

“Cefnogi twf busnesau”

“Mae’r rhain yn ganlyniadau gwych gan Gyllid Cymru, sydd wedi chwarae rôl allweddol yn cefnogi twf busnesau Cymru ac yn helpu i sicrhau ffyniant drwy greu a diogelu swyddi a denu buddsoddiad gan y sector preifat,” meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

“Wrth i Gyllid Cymru baratoi i esblygu i fod yn Fanc Datblygu ar gyfer Cymru, bydd hyn yn ddechrau ar gyfnod newydd. Bydd yn cynnig cyfleoedd mwy byth i gefnogi mwy o fentrau micro a chanolig eu maint ledled Cymru.”