Trenau Arriva Cymru, (Llun: PA)
Bydd pum trên newydd â phedwar cerbyd yr un yn cael eu cyflwyno yng Nghymru er mwyn gwella’r ddarpariaeth drenau.

Bydd y trenau newydd yn cael eu cyflwyno flwyddyn nesaf ac yn cyfrannu at wella problemau trenau gorlawn, ac yn galluogi cyflwyniad gwelliannau i’r trenau sydd eisoes yn cael eu defnyddio.

Mae cyflwyniad y trenau dosbarth ‘319 flex bi-mode’ wedi’u hariannu trwy fuddsoddiad £1.9 miliwn gan Lywodraeth Cymru a chyfraniad £1 miliwn gan Drenau Arriva Cymru.

“Hynod o falch”

“Rwy wedi bod yn agored iawn ynghylch yr anhawster sydd ynghlwm wrth ychwanegu cerbydau o safon uchel at y stoc sydd ar gael yng Nghymru,” meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

“Yn amlwg rwy’n hynod o falch ein bod wedi llwyddo i sicrhau’r trenau ychwanegol hyn drwy gydweithio â Threnau Arriva Cymru ac eraill.”

Dywedodd Simon Hughes, Cyfarwyddwr Fflyd Trenau Arriva Cymru: “Bydd y trenau ychwanegol hyn yn hwb sylweddol i’n cwsmeriaid sydd wedi bod yn galw am gapasiti ychwanegol ers cryn amser.

“Pleser yw buddsoddi ar y cyd â Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau’r cerbydau ychwanegol hyn o fewn cyfnod ein rhyddfraint bresennol.”