Elwyn Jones (ar y chwith, llun Facebook)
Fe fydd Elwyn Hogia’r Wyddfa yn cael ei gofio fel “gŵr bonheddig, proffesiynol”, yn ôl y digrifwr a’r cyflwynydd radio, Tudur Owen.

Fe ddaeth y newyddion am farwolaeth y baswr adnabyddus yn 79 oed neithiwr.

Fel rhan o’r grŵp enwog o Lanberis a ddaeth i amlygrwydd ledled Cymru yn yr 1960au, fe fu’n wyneb ac yn llais cyfarwydd i ddilynwyr cerddoriaeth Gymraeg dros gyfnod o fwy na 50 mlynedd.

Er cymaint poblogrwydd ei gyd-gantorion Arwel Jones a Myrddin Owen, does dim amheuaeth bod llais bas unigryw Elwyn yn gwbl allweddol a hanfodol i apêl yr ‘Hogia’.

‘Braint’

Trwy Nosweithiau Llawen a chyngherddau ar hyd a lled Cymru y daeth Tudur Owen i adnabod y triawd, ac fe ddywedodd wrth golwg360 ei bod yn “fraint” ystyried Elwyn Jones yn ffrind.

“Yr atgofion cynhara’ sy gynna’i o fod yn berfformiwr ac yn arweinydd llwyfan di-brofiad, roedd Elwyn yn un o’r bobol yma oedd yn gefnogol iawn, ac yn ymwybodol falla fod rhywun yn nerfus iawn ac yn ddi-brofiad.

“Mi fyddai Elwyn, fel y byddai’r ddau arall Arwel a Myrddin hefyd, yn gefnogol iawn ac yn broffesiynol iawn.

“Oeddach chi’n cael y teimlad, oeddwn i beth bynnag, wastad ychydig bach yn ‘starstruck’ pan o’n i’n gweld Hogia’r Wyddfa achos o’n i wedi tyfu i fyny yn gwrando arnyn nhw ac yn eu gwylio nhw mewn cyngherddau.

“Fel o’n i’n mynd yn hŷn ac yn cysidro nhw fel ffrindia, o’n i’n gweld bod hynna’n fraint o’r mwya. Mi oedd o’n ŵr bonheddig. Hwnnw fasa’r disgrifiad sy’n dod cyn pob dim arall. Gŵr bonheddig annwyl iawn, er bod o’n gawr o ddyn, clamp o ddyn.

“Oedd o’n annwyl iawn ac yn barod ei wên ac yn barod efo gair o gyngor ac yn tawelu meddwl rhywun os oedd rhywun yn nerfus. Dyna dwi’n cofio o’r dyddiau cynnar, beth bynnag.”

Cyfraniad Hogia’r Wyddfa

Ychwanegodd Tudur Owen fod Hogia’r Wyddfa yn “rhan o’n hanes ni fel Cymry”, a bod eu caneuon yn dal yn boblogaidd ymhlith Cymry Cymraeg o bob oed.

“Alla’i ddim gor-ddeud eu cyfraniad nhw i’r diwylliant Cymraeg ar hyd y blynyddoedd, ac maen nhw’n dal i fod yno.

“Mae’u sŵn nhw’n gyfarwydd. Yn aml iawn, pan fyddan ni’n chwarae ‘Safwn yn y Bwlch’ gan Hogia’r Wyddfa ar fy rhaglen radio, yn aml fydda i’n cloi’r sioe efo honna. Mae’r ymateb ’dan ni’n gael gan bobol, hen ac ifanc, bob tro… ddim yn fy synnu fi… ond yn codi ysbryd rhywun pan fydd rhywun yn clywed yr ymateb i Hogia’r Wyddfa.

“Mae hynny’n profi’r statws maen nhw wedi’i hawlio yn y diwylliant. Mi fydd ’na chwith mawr ar ei ôl o.”

Diwedd Hogia’r Wyddfa?

Cafodd Hogia’r Wyddfa eu sefydlu yn 1963, ac roedd ganddyn nhw bum aelod bryd hynny.

Elwyn Jones, Arwel Jones, Myrddin Owen, Vivian Parry a Richard Huw Morris oedd yr aelodau gwreiddiol.

Yn dilyn marwolaeth Richard Huw Morris, ymunodd Annette Bryn Parri â’r ‘Hogia’.

Ond fel triawd y buon nhw’n canu ers rhai blynyddoedd.

Ychwanegodd Tudur Owen: “Dw i ddim yn gwybod be’ fydd yn digwydd iddyn nhw. Triawd oedden nhw yn y diwedd, mi oedd ’na bedwar neu bump ohonyn nhw.

“Dyna ddiwedd Hogia’r Wyddfa, am wn i, sydd mor drist mewn cymaint o wahanol ffyrdd.”

‘Melys yr atgofion ar ei ôl’

Un arall a dynnodd sylw at ei ddawn fel diddanwr oedd Dafydd Iwan:

“Roedd Elwyn yn perthyn i’r traddodiad noson lawen go iawn, yn ogystal â bod yn ganwr da,” meddai.

“Roedd yn ei elfen yn yr hwyl anffurfiol a ddilynai’r cyngerdd ei hun, ac yn giamstar ar ddweud stori, ac ar ganu organ geg leiaf y byd.

“Ar y llwyfan, roedd y trawsnewidiad o’r baswr syber i’r digrifwr yn sgetsys yr Hogia yn rhyfeddol, ac roedd yn allweddol i lwyddiant ac i apêl eang Hogia’r Wyddfa.

“Melys yr atgofion ar ei ôl.”