Mae cynrychiolwyr pedwar o fudiadau iaith wedi ysgrifennu at holl gynghorwyr sir Gwynedd yn apelio arnyn nhw i wrthod mabwysiadu cynllun datblygu dadleuol.

Fe fydd fersiwn terfynol Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r cyngor llawn ddydd Gwener 28 Gorffennaf.

Yn ôl y mudiadau – Dyfodol i’r Iaith, Cymdeithas yr Iaith, Cylch yr Iaith a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai – y cyfarfod hwn fydd y mwyaf tyngedfennol yn hanes y cyngor gan fod “dyfodol ein cymunedau a’n hiaith yn y fantol”.

Eu prif bryder yw bod niferoedd y tai y neilltuir tir ar eu cyfer – 7,902 rhwng y ddwy sir – yn rhy fawr.

“Mae’r niferoedd y tai yn darparu ar gyfer mewnlifiad ac felly yn ei hyrwyddo,” meddai Ieuan Wyn o Fethesda ar ran y mudiadau. “Yn lle pennu cyfansymiau sirol ar gyfer Gwynedd a Môn, dylai’r cyfansymiau fod wedi eu seilio ar angen lleol yn y cymunedau.”

Mae’r mudiadau hefyd yn dadlau bod y ganran o dai fforddiadwy yn rhy isel, a nifer rhy fach o gymunedau lle mae’r tai wedi eu cyfyngu i bobl leol.

“Mae’r cynllun ar ei ffurf derfynol yn gwbl annerbyniol ac yn fygythiad gwirioneddol i hunaniaeth cymunedau’r sir,” meddai Ieuan Wyn.

“Erfyniwn yn daer arnoch i bleidleisio dros wrthod y cynllun gan fynnu bod y diffygion yn cael eu cywiro.

“Byddai’n gwbl amhriodol i Gyngor Gwynedd, a chofio’i arwyddair ‘Cadernid Gwynedd’, roi sêl bendith ar Gynllun mor ddadleuol.”

Plaid Cymru mewn cyfyng gyngor

Yn ôl adroddiadau answyddogol o gyfarfod grŵp cynghorwyr Plaid Cymru – sy’n rheoli Cyngor Gwynedd – ddydd Mercher, mae gwahaniaethau barn cryf ar y mater.

Mae’n ymddangos fod aelodau’r cabinet ac uchel swyddogion y cyngor yn dadlau dros fabwysiadu’r cynllun, tra bod gan gynghorwyr eraill lawer mwy o amheuon.

Yn ogystal â nifer o gynghorwyr sy’n rhannu pryderon y mudiadau iaith, mae eraill yn poeni am oblygiadau gwleidyddol mabwysiadu’r cynllun.

Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor, ynghyd â rhai o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru, yn gwrthwynebu penderfyniad yr Arolygiaeth Cynllunio i gymeradwyo cynllun i godi 366 o dai ym Mhenrhosgarnedd, Bangor, ar y sail y byddai cynllun mor fawr yn boddi’r Gymraeg yn yr ardal.

Os bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei fabwysiadu, bydd yn agor y drws i godi 969 o dai ychwanegol yn y ddinas ar ben y nifer hwnnw.

Yn ôl ffynonellau, roedd rhai cynghorwyr yn rhybuddio yn sgil hyn y byddai mabwysiadu’r cynllun yn creu’r argraff bod Plaid Cymru’n rhy barod i “drio plesio Llywodraeth Lafur Cymru”.