Sioned Hughes (llun: Urdu Gobaith Cymru)
Mae Prif Weithredwr yr Urdd wedi cytuno i adael ei swydd ar ôl adroddiadau o anghydfod rhyngddi a rhai o gyfarwyddwyr y mudiad.

Roedd Sioned Hughes wedi bod yn ei swydd ers llai na dwy flynedd.

Mae Golwg360 yn deall bod rhai o gyfarwyddwyr yr Urdd yn anfodlon gyda’i gwaith, ac y byddai cwynion yn ei herbyn yn cael eu trafod mewn cyfarfod o ymddiriedolwyr yr Urdd heddiw.

Yn y cyfamser, fodd bynnag, cyhoeddodd yr Urdd y datganiad canlynol neithiwr yn enw cadeirydd y pwyllgor gwaith, Tudur Dylan Jones, a Sioned Hughes:

“Mae Urdd Gobaith Cymru a Sioned Hughes yn cyhoeddi eu bod wedi cytuno ar y cyd bod ei chyflogaeth fel Prif Weithredwr yn dod i ben.

“Mae’r Urdd yn diolch iddi am ei gwasanaeth dros y flwyddyn a hanner diwethaf, ac yn dymuno’n dda iddi yn y dyfodol.”

Nid oedd gan yr Urdd unrhyw sylw pellach i’w wneud heddiw.