Andrew 'Tommo' Thomas
Mae ‘Tommo’ wedi cael ei wahardd dros dro rhag cyflwyno ei raglen ar Radio Cymru.

Yn ôl adroddiadau ar wefan y BBC, mae’r gwaharddiad ar Andrew Thomas yn dilyn cŵyn yn ei erbyn gan aelod o’r cyhoedd, ond nid yw’r gŵyn yn ymwneud ag unrhyw beth a ddywedodd ar ei raglen.

Fel un o gyflwynwyr Gŵyl Nôl a Mla’n – gŵyl gerddorol yn Llangrannog – y penwythnos diwethaf, mae’n ymddangos bod y gŵyn yn ei erbyn yn gysylltiedig â sylwadau yr honnir iddo’u gwneud bryd hynny.

Yn ôl datganiad ar ran Radio Cymru:

“Rydym wedi derbyn cwyn ac yn ymchwilio i’r mater.

“Tra bo’r ymchwiliad yn parhau, ni fydd Tommo yn darlledu ar BBC Radio Cymru.”