(llun o wefan yr heddlu)
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn adnewyddu eu hapêl i fam merch fach newydd-anedig y cafwyd hyd iddi mewn safle bws yn Nhywyn, ger y Rhyl am 7.15 fore Mawrth.

Dywedodd Helen Douglas o Heddlu Gogledd Cymru:

“Rydym yn bryderus am iechyd y fam ac yn apelio iddi gysylltu gyda mi, Helen ar 07835 923787. Yn yr un modd, os ydych chi’n ffrind, perthynas neu gymydog pryderus i’r fam, gallwch gysylltu â mi ar yr un rhif. Rydym eisiau sicrhau fod y fam yn derbyn y cymorth meddygol mae ei angen.

“Rydym hefyd eisiau iddi wybod bod ei merch fach yn derbyn gofal yn Ysbyty Glan Clwyd.”

Mae’r heddlu hefyd yn apelio ar i unrhyw yrwyr tacsis a allai fod yn teithio ar hyd priffordd arfordirol Tywyn (A548) rhwng 11:30 nos Lun a 9 bore Mawrth yr wythnos yma gysylltu â nhw.

Gall unrhyw un sy’n gwybod pwy yw’r fam neu sy’n gallu rhoi unrhyw wybodaeth a all helpu ei hadnabod, gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod V103529.