Mae strategaeth gyffuriau newydd Llywodraeth San Steffan a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref heddiw wedi “methu cyfle”, yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Yn ôl Arfon Jones nid yw’r prif nod, sef gwahardd cyffuriau, ond yn gwneud y broblem yn waeth trwy eu “gyrru’n danddaearol a’i gwneud yn anoddach i’w rheoli”.

“Os ewch chi yn ôl i America, ni wnaeth gwahardd alcohol weithio – mi wnaethon nhw ddiweddu fyny gyda gwirodydd cryf a moonshine.

“Mae hyn yn cyfateb i beth sy’n digwydd heddiw. Pan fyddwch yn gwahardd rhywbeth mae’r sylweddau sy’n cymryd ei le bob amser yn gryfach, fel sydd wedi digwydd yn achos mamba a spice.”

Dilyn esiampl Portiwgal

Enghraifft o wlad sy’n rheoleiddio cyffuriau yn llwyddiannus yw Portiwgal, yn ôl y Comisiynydd, lle cafodd cyffuriau eu dad-droseddu yn 2001.

“Mae tri ym mhob miliwn o bobl yn marw oherwydd cyffuriau ym Mhortiwgal tra yn y DU mae’r ffigwr oddeutu 45 ym mhob miliwn.

“Credaf fod yr ystadegyn hwnnw ar ei ben ei hun yn dystiolaeth gref bod yr hyn y maen nhw yn ei wneud ym Mhortiwgal yn gweithio.”

Y “rhyfel bondigrybwyll” wedi methu

Yn ôl Arfon Jones mae credu bod angen i’r Llywodraeth roi stop ar wneud yr un camgymeriadau “dro ar ôl tro”, a bod angen meddwl “y tu allan i’r bocs” er mwyn datrys y boblem gyda chyffuriau.

“Ar hyn o bryd, beth mae pawb yn ei wneud yw trin symptomau cam-ddefnyddio sylweddau a dibyniaeth ar gyffuriau yn hytrach na mynd i’r afael â’r achosion gwaelodol.

“Dylem fod yn trin dibyniaeth ar gyffuriau fel mater cyhoeddus yn hytrach na mater troseddol.

“Y dihirod go-iawn yma yw’r troseddwyr cyfundrefnol sy’n gyfrifol am bedlera’r holl drallod a nhw yw’r rhai y dylem eu targedu â’n holl nerth.”