Mae’r Eisteddfod wedi cyhoeddi bod y maes gwersylla teuluol ar gyfer yr ŵyl eleni’n llawn.

Mae safleoedd maes carafanau’r brifwyl wedi bod yn llawn ers misoedd ac erbyn hyn mae pob un o 200 o safleoedd gwersylla’r maes teuluol wedi eu llenwi.

Er bod y safleoedd carafán a gwersylla teuluol wedi gwerthu allan mae gwefan yr Eisteddfod yn darparu gwybodaeth am letyau a meysydd carafanau ar Ynys Môn.

“Diolch i bawb sydd wedi archebu lle ar gyfer yr Eisteddfod eleni,”  meddai Elfed Roberts. “Roedd y galw am safleoedd carafán eleni’n uchel iawn, ac erbyn hyn rydan ni hefyd wedi llenwi pob un o’r safleoedd gwersylla oedd gennym ar gael ar y maes teuluol.”

“Gydag ychydig wythnosau’n unig i fynd cyn yr Eisteddfod a’r Maes yn prysur dyfu, rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i ardal hyfryd Ynys Môn.”