Ni fydd modd talu am drwydded deledu ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg tan fis Medi’r flwyddyn nesaf.

Mae’r corff sy’n casglu’r drwydded o £147 ar ran y BBC, TV Licensing, yn dweud eu bod wedi ymrwymo i gwrdd â gofynion y Safonau Iaith ond na fydd modd “prynu neu adnewyddu” trwydded yn Gymraeg ar y We tan Fedi 2018.

Mae’r amserlen honno wedi cael sêl bendith Comisiynydd y Gymraeg, yn ôl TV Licensing.

Ond mae’r sefyllfa yn “gwbl annerbyniol” yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

“Gweithio ar welliannau”

Meddai TV Licensing: “Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb tuag at yr iaith Gymraeg o ddifri gan ddarparu gwybodaeth helaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a sicrhau fod modd i gwsmeriaid gysylltu â ni yn Gymraeg drwy e-bost, ffôn neu’n ysgrifenedig.

“Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar nifer o welliannau fel rhan o’n hymrwymiad i’r Safonau Iaith. Fe fydd y gwelliannau hyn yn cynnwys ffurflen i dalu ar-lein fydd yn galluogi cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg i brynu neu adnewyddu eu trwydded ar-lein erbyn mis Medi 2018, fel sydd wedi ei gytuno gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.”

Yn bresennol mae modd adnewyddu a phrynu’r drwydded trwy gyfrwng y Gymraeg drwy e-bost, dros y ffôn neu’n ysgrifenedig.

 “Cwbwl annerbyniol”

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae’r cyhoeddiad yn “annerbyniol” ac mae’r mudiad wedi croesawu unigolion i ymuno â’u hymgyrch i wrthod talu’r trwyddedau yn enw datganoli pellach.

“Mae’r methiant i ddarparu gwasanaeth Cymraeg yn gwbwl annerbyniol, ac yn dangos unwaith eto bod angen torri i ffwrdd o sefydliad gwrth-Gymraeg o’r fath,” meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Heledd Gwyndaf.

“Rydw i a nifer o bobol eraill yn gwrthod talu ein trwyddedau teledu er mwyn datganoli darlledu, mae croeso i unrhyw un a phawb ymuno yn yr ymgyrch tor-cyfraith hon os ydyn nhw’n teimlo eu bod mewn sefyllfa i wneud hynny.”

Ymateb Comisiynydd y Gymraeg

“Mae Trwyddedu Teledu’r BBC yn darparu gwasanaeth talu am drwydded yn Gymraeg dros y ffôn ac mae gwybodaeth a manylion yn Gymraeg am sut i dalu am drwydded ar wefan Trwyddedu Teledu,” meddai llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg.

“Nid oes gwasanaeth talu ar-lein wedi bod ar gael yn Gymraeg hyd yma. Yn sgil gosod safonau’r Gymraeg ar y BBC, mae ymrwymiad i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg am y tro cyntaf o fis Medi blwyddyn nesaf ymlaen.

“Mae’r hysbysiad cydymffurfio a roddodd y Comisiynydd i’r BBC wedi ei gyhoeddi ar wefan y Comisiynydd. Mae’r hysbysiad yn nodi’r holl ddyletswyddau sydd ar y BBC i ddefnyddio’r Gymraeg, ac yn cynnwys cyflwyno gwasanaeth o’r newydd i alluogi’r cyhoedd i dalu am eu trwydded yn Gymraeg ar-lein, a’r amserlen ar gyfer gwneud hynny.”