Anthony Hopkins
Mae dau actor o Gymru, Anthony Hopkins a Matthew Rhys wedi cael eu henwebu am wobrau Emmys eleni.

Mae’r pâr  wedi eu henwebu yng nghategori ‘actor gorau mewn cyfres ddrama’- Anthony Hopkins am ei rôl yn Westworld, a Mathew Rhys am ei rôl yn The Americans.

Dyma fydd pumed enwebiad Emmy Anthony Hopkins, , yr actor o Bort Talbot sydd wedi ennill dau o’r gwobrau yn y gorffennol.

Bydd yr actorion o Gymru yn wynebu cystadleuaeth gan yr actorion Milo Ventimiglia, Bob Odenkirk, Sterling K Brown, Liev Schreiber a Kevin Spacey, sydd hefyd wedi eu henwebu yn y categori ‘actor gorau mewn cyfres ddrama’.

Mi fydd Seremoni Gwobrau Emmy yn cael ei chynnal yn Los Angeles, California ym mis Medi.

Ymysg cyfresu sydd wedi cael eu henwebu mae Sherlock: The Lying Detective sydd yn cael ei ffilmio yng Nghymru.