Mae Heddlu Gogledd Cymru’n hawlio llwyddiant ar ôl cyrch cyffuriau ym Mhwllheli.

Maen nhw’n dweud eu bod wedi dod o hyd i gyffuriau anghyfreithlon ac wedi arestio gwraig leol ar amheuaeth o fwriadu gwerthu cyffuriau.

Yn ôl yr heddlu, roedd y cyrch yn barhad o ymgyrch fwy i fynd i’r afael â chamddefnydd cyffuriau yng Ngwynedd, gan dargedu pobol allweddol yn y fasnach.

Dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi enw’r ddynes sydd wedi ei harestio ond maen nhw wedi cadarnhau mai yn Ffordd y Mela yr oedd y cyrch.

Maen nhw hefyd wedi apelio ar i ragor o bobol roi gwybodaeth iddyn nhw am werthwyr cyffuriau.