Adam Price (Llun Plaid Cymru)
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi cadarnhau y byddan nhw’n bwrw ymlaen gyda pholisi iaith newydd sy’n golygu y bydd rhaid i bawb sy’n cael swydd yno o’r ha’ nesa’ ymlaen fod â sgiliau Cymraeg sylfaenol.

Mae hynny’n golygu “y gallu i adnabod, ynganu a defnyddio ymadroddion ac enwau cyfarwydd, ac i ddeall testunau sylfaenol, fel negeseuon e-bost syml.”

Fe gadarnhaodd Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad, sy’n goruchwylio trefn y sefydliad, na fydd rhaid i bobol ddangos y sgiliau hynny i gadw eu swyddi presennol ond y bydd angen cwrdd â’r gofyn wrth gynnig am ddyrchafiad neu swyddi newydd.

‘Camau breision’

Fe ddywedodd Adam Price hefyd mai’r nod yw bod “yn gorff sydd yn gweithredu’n gwbl ddwyieithog” ac fe fyddai hynny, weithiau, yn golygu “cymryd camau breision”.

Os na fydd pobol â’r sgiliau iaith angenrheidiol yn cael eu penodi trwy ddulliau arferol fe fydd y Cynulliad yn defnyddio “dulliau recriwtio amgen ac arloesol”.

Doedd yna ddim gwrthwynebiad wrth i’r Cynulliad gael cyfle i bleidleisio ar y cynllun yn eu cyfarfod ddydd Mercher ond roedd Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad wedi codi cwestiwn am effaith negyddol posib ar recriwtio pobol o gefndiroedd ethnig.