Pawb o blaid (Llun: Hefin Wyn)
Fe ddaeth dros gant o bobol ynghyd neithiwr ym Mro’r Preseli, ac maen nhw wedi pleidleisio’n unfrydol o blaid prynu tafarn leol.

Mae Tafarn Sinc ym mhentref Rhos-y-bwlch ger Maenclochog wedi bod ar werth am bris o £295,000 ers mis Ionawr, ac yn ôl y perchnogion presennol mi fydd yn cau os na fydd yn gwerthu cyn mis Hydref.

Cafodd y cyfarfod neithiwr ei drefnu gan bapur bro’r ardal, Clebran, a phenderfynodd y gymuned y byddai modd prynu hyd at ddeg cyfran gwerth £200 yr un.

Mae cyfrif banc eisoes wedi ei sefydlu gan y gymuned ac mi gafodd £5,000 ei gasglu cyn diwedd y cyfarfod neithiwr.

Yn ôl golygydd Clebran, Hefin Wyn, oedd yn llywio’r cyfarfod yn Neuadd Maenclochog, mae’r tafarn yn “ganolbwynt i Gymreictod” yr ardal ac yn rhan o hunaniaeth y fro.

“Canolbwynt Cymreictod”

“Mae yna deimladau cryfion yn yr ardal bod yna rhywbeth arbennig am y dafarn, bod e’n fwy na dim ond tafarn,” meddai Hefin Wyn wrth golwg360. “Bod eisiau ei gadw ef, a chynnal ei Gymreictod a hyrwyddo’r Cymreictod ymhellach.

“Mae’n ganolbwynt i Gymreictod naturiol yr ardal. Dyw e ddim yn dafarn sydd wedi cael ei glustnodi i fod yn dafarn Cymraeg o gwbwl oherwydd ei fod mewn ardal Gymreig a Chymraeg. Mae’n naturiol Gymraeg.

“Dw i’n gweld bod Tafarn Sinc yr un mor bwysig o ran hunaniaeth yr ardal ag yw Ysgol y Preseli, Clwb Rygbi Crymych a Chaffi Beca Efail Wen. Mae’r rhain i gyd yn sefydliadau naturiol Gymreig.”

Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn ystod mis Awst.