Mae’r rhan fwyaf o bobol Cymru am weld rhannau o’r sector preifat yn cael eu cynnwys dan Safonau’r Gymraeg.

Dyna y mae arolwg barn gan YouGov, a gafodd ei gomisiynu gan Gymdeithas yr Iaith, wedi’i ganfod ar ôl holi 1,000 o bobol ynghylch ehangu Mesur y Gymraeg i gynnwys banciau ac archfarchnadoedd.

Mae golwg360 wedi gweld canlyniadau’r arolwg, sy’n dangos:

– Mae 57% yn cefnogi cyflwyno cyfraith i sicrhau bod pob banc yng Nghymru yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg, yn ogystal â Saesneg. Mae 29% yn gwrthwynebu hynny.

– O ran yr archfarchnadoedd, 51% o bobol oedd yn cefnogi eu rhoi dan Safonau’r Gymraeg, a 36% yn gwrthwynebu

Cefnogaeth gryfaf gan bobol ifanc

Pobol rhwng 18 a 24 oed oedd fwyaf brwd dros weld u sector preifat yn dod dan y Safonau – 72% oedd yn cefnogi cynnwys y banciau a 62% yn cefnogi cynnwys yr archfarchnadoedd.

“Os yw’r Gymraeg am dyfu, rhaid i ni gael yr hawl i’w defnyddio ymhob agwedd ar fywyd, ac mae’r arolwg clir yn dangos bod mwyafrif clir o bobl Cymru yn cytuno,” meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Erbyn hyn, rhaid i bawb ddefnyddio banciau ac archfarchnadoedd, ond bylchog ar y gorau yw eu darpariaeth Cymraeg.

“Mae profiad yn dangos mai dim ond gorfodaeth gyfreithiol neu ariannol fydd yn sicrhau bod cwmnïau rhyngwladol anferth yn rhoi chwarae teg i’r Gymraeg, ac mae pobl yn cytuno gyda ni y dylai pob archfarchnad yng Nghymru rhoi lle i’r Gymraeg.

Alun Davies – cyhoeddiad yn yr Eisteddfod

Mewn cyfarfod â’r mudiad, dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, ei fod o blaid “yn breifat ac yn bersonol” ehangu’r ddeddf iaith i gynnwys y sector preifat.

A phan gafodd ei holi gan gylchgrawn Golwg ar ymestyn y ddeddf iaith, dywed y bydd yn cyhoeddi Papur Gwyn ar ddeddfwriaeth dros y Gymraeg yn ystod y Brifwyl fis nesaf.

“Dw i’n mynd i wneud cyhoeddiad yn yr Eisteddfod ar y Papur Gwyn bydd yn ystyried yr holl gwestiynau deddfwriaethol y bydd yn rhaid i ni wynebu os ry’n ni’n mynd i greu seilwaith deddfwriaethol digonol ar gyfer y Gymraeg.”

Bydd y Papur Gwyn yn edrych ar rôl pob sefydliad presennol – gan gynnwys rôl ei hun fel Gweinidog y Gymraeg a rôl y Comisiynydd Iaith, ac yn ystyried cynigion newydd.