Michel Barnier
Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn cyfarfod â Phrif Drafodwr y Comisiwn Ewropeaidd ym Mrwsel heddiw.

Yn ystod y cyfarfod mi fydd Carwyn Jones yn cyflwyno papur gwyn i Michel Barnier, yn amlinellu safbwyntiau Llywodraeth Cymru ar nifer o faterion yn ymwneud â Brexit.

Mae’n debyg fod y papur yn cynnwys sawl safbwynt sy’n wahanol i safiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae’r papur yn tynnu sylw at bwysigrwydd y Farchnad Sengl i wledydd Prydain.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mi fydd y cyfarfod yn gyfle i “adeiladu perthynas uniongyrchol” â thîm Brexit yr Uned Ewropeaidd.

Bydd hefyd yn gyfle i “bwysleisio” bod Cymru am gadw cysylltiad agos ag Ewrop wedi i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb.

“Trafodaeth aeddfed”

“Rwy’n edrych ymlaen at gael trafodaeth aeddfed, synhwyrol gyda Mr Barnier am ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd,” meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

“Mae gan Lywodraeth Cymru berthynas gynnes ac enw da gyda’r Comisiwn Ewropeaidd eisoes, ac rwy’n awyddus i ddangos bod rhannau o’r Deyrnas Unedig yn barod i drafod yn adeiladol gyda gweddill gwledydd yr Undeb Ewropeaidd, yn hytrach na chwarae i’r gynulleidfa.”