Map hollt ia Larsen C (Llun: Prifysgol Abertawe)
Mae un o’r mynyddoedd iâ mwyaf erioed wedi torri’n rhydd o ysgafell iâ yn yr Antarctig.

Torrodd y darn 5,800km sgwâr yn rhydd rhwng Gorffennaf 10 a Gorffennaf 12, yn ôl arbenigwyr o brosiect dan arweiniad Prifysgol Abertawe.

Mae’r mynydd iâ yn pwyso mwy na thriliwn o dunellau ac mae’r swm o ddŵr sydd ynddo, ddwywaith y swm sydd yn Llyn Erie – sef un o Lynnoedd Mawrion yr Unol Daleithiau.

Bellach mae’r ysgafell iâ  – sy’n cael ei alw’n ‘Larsen C’ – wedi colli mwy na 12% o’i harwyneb, gan newid tirwedd Penrhyn yr Antarctig am byth.

“Sefyllfa fregus iawn”

“Er mai digwyddiad naturiol yw hwn, ac nid ydym yn ymwybodol o unrhyw gysylltiad â newid yn yr hinsawdd, mae’r ysgafell iâ mewn sefyllfa fregus iawn o ganlyniad,” meddai’r arbenigwr rhewlifeg o Brifysgol Abertawe, Dr Martin O’Leary.

“Dyma’r pellaf yn ôl mae’r iâ wedi cilio yn ôl cofnodion hanesyddol. Byddwn yn gwylio’n ofalus iawn am arwyddion bod gweddill yr ysgafell wedi dod yn ansefydlog.”