Cig a chynhyrchion cig oedd ar frig y rhestr o allforion Llun: Hybu Cig Cymru
Mae gwerth y bwyd a diod sy’n cael eu hallforio o Gymru wedi cynyddu bron i 20% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.
Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru mi wnaeth gwerth allforion bwyd a diod o Gymru godi i £337.3 miliwn y llynedd – cynnydd o 19.8% o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2015.
Yr Undeb Ewropeaidd sy’n mewnforio’r rhan fwyaf o allforion bwyd a diod o Gymru – maen nhw’n mewnforio 72.4% o gyfanswm ein hallforion.
Er hynny mae’n debyg bod cynnydd mawr wedi bod yn yr allforion i’r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica.
Cig a chynhyrchion cig oedd ar frig y rhestr o allforion am y flwyddyn, ac roedden nhw’n gyfrifol am bron i 22% o’r holl allforion bwyd a diod.
Enw da ledled y byd
“Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn ansawdd uchel ein bwyd a’n diod, ac yn cydnabod eu gwerth aruthrol i’n heconomi,” meddai Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths. “Mae’r ffigurau hyn yn dystiolaeth bellach o’r enw da y mae ein bwyd a’n diod yn ei ennill ledled y byd.
“Yr Undeb Ewropeaidd yw’r prif gwsmer ar gyfer ein cynnyrch o hyd, a hynny o bell ffordd. Mae’n dystiolaeth bellach o fygythiad Brexit caled i’n heconomi, a dyna pam rydyn ni’n parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig … i osgoi codi unrhyw rwystrau newydd sy’n llesteirio busnesau bwyd a diod Cymru rhag gweithio’n effeithiol.”