Llun: PA
Fe allai Cymru gael mwy o bwerau yn sgil penderfyniad Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl Prif Ysgrifennydd Gwladol San Steffan, Damian Green.

Dywedodd na fyddai Cymru a’r Alban, fel gwledydd datganoledig, yn cael llai o bwerau yn sgil Brexit ond yn hytrach, y byddai Llywodraeth Prydain yn ceisio rhoi mwy o bwerau iddyn nhw.

Roedd e wrth y llyw ar gyfer Sesiwn Holi’r Prif Weinidog yn absenoldeb Theresa May, ac roedd e’n ddilornus o safbwynt yr Alban am yr Undeb Ewropeaidd, gan ddweud eu bod nhw “eisiau symud pwerau o Lundain i Gaeredin er mwyn eu dychwelyd nhw i Frwsel”.

Roedd yn ymateb i alwad gan arweinydd yr SNP yn San Steffan, Ian Blackford ar i Lywodraeth Prydain gadarnhau na fyddai’r gwledydd datganoledig yn colli pwerau yn sgil y Ddeddf Ddirymu.

Roedd wedi galw am “sicrwydd” y byddai’r holl bwerau presennol yn aros fel ag y maen nhw, ac na fyddai’r cytundeb datganoli yn 1997 yn cael ei ddiwygio.

Dywedodd Damian Green: “Dw i’n synnu braidd ynghylch dulliau cenedlaetholwyr yr Alban gan mai fy nealltwriaeth i o’u safbwynt nhw yw eu bod nhw “eisiau symud pwerau o Lundain i Gaeredin er mwyn eu dychwelyd nhw i Frwsel”.

“Dyna eu safbwynt nhw fel dw i’n ei ddeall e, ond efallai bod yr anallu sydd ganddyn nhw i egluro rhesymeg y safbwynt hwnnw’n egluro’u canlyniad diweddar yn yr etholiad cyffredinol.”

Collodd yr SNP draean o’u seddi yn yr etholiad cyffredinol.