Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i “aflonyddwch sylweddol” mewn pentref yn Sir Benfro neithiwr.

Roedd mwy na 100 o bobl wedi ymgasglu tu allan i eiddo yng Nghwrt Gwilliam yng Nghil-maen rhwng 9.30yh a 3.40yb nos Fawrth.

Cafodd dau berson oedd yn yr eiddo eu cludo oddi yno ac ni chafodd unrhyw un eu hanafu.  Dywed yr heddlu bod yr aflonyddwch yn deillio o bryderon oedd wedi eu cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol yn lleol yn ymwneud a’r unigolion yn yr eiddo.

Roedd na bryder bod troseddwr yn byw yn eu plith.

Mae swyddogion yr heddlu yn parhau i fod ar y safle heddiw yn dilyn y digwyddiad ac yn rhybuddio’r cyhoedd y gallai unrhyw weithredoedd neu sylwadau sy’n cael eu gwneud ar  gyfryngau cymdeithasol arwain at weithredu gan yr heddlu.

Daeth yr helynt i ben wedi i swyddogion gyflwyno gorchmynion gwasgaru i’r bobol oedd wedi ymgynnull yn yr ardal. Bydd y gorchymyn yn ddilys am y 48 awr nesaf. Ni chafodd unrhyw un eu harestio.

Bu Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynorthwyo swyddogion Heddlu Dyfed-Powys.

Mae Heddlu Dyfed Powys bellach yn cydweithio gyda swyddogion tai Cyngor Sir Benfro er mwyn trafod y pryderon a gafodd eu mynegi gan y gymuned yn ystod y digwyddiad.