Cylchffordd Cymru
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi cael sicrwydd y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i ddarganfod sut y cafodd gwybodaeth sensitif am Gylchffordd Cymru ei chyhoeddi.
Roedd hi wedi herio Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones i gynnal ymchwiliad o’r fath, gan gyhuddo Llywodraeth Cymru o fethu ag ymdrin yn gywir â’r sefyllfa.
Mae hi’n honni bod Llywodraeth Cymru wedi dweud bod maint y warant oedd ei hangen er mwyn diogelu’r prosiect wedi cael ei chwyddo, ond bod y buddsoddwyr wedi gwrthddweud y ffigwr.
Mae hi hefyd wedi beirniadu’r ffaith y bydd gwybodaeth diwydrwydd dyledus yn cael ei chyhoeddi yn ystod gwyliau’r Cynulliad, gan y bydd hynny’n oedi’r broses o graffu.
‘Cwestiynau i’w hateb’
Dywedodd Leanne Wood fod gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones “gwestiynau i’w hateb” ynghylch y broses.
“Yn ystod yr ymgyrchoedd etholiadol diweddar, rhoddodd Prif Weinidog Cymru yr argraff ei fod e’n cefnogi Cylchffordd Cymru, ond fod gwerth y warant oedd ei hangen wedi cael ei chwyddo. Mae’r buddsoddwyr wedi gwrthddweud hyn.
“Heb fod y wybodaeth diwydrwydd dyledus yn cael ei chyhoeddi tan fod y Cynulliad ar wyliau, mae hyn yn oedi’r broses graffu.
“Yn ddiau, mae’r llywodraeth yn gobeithio y bydd y mater yn cael ei anghofio, ond bydd Plaid Cymru’n parhau i ofyn cwestiynau ynghylch sut maen nhw wedi gwneud y penderfyniad hwn.”
Ychwanegodd fod cynnal ymchwiliad cyhoeddus i’r “llith o addewidion sydd wedi’u torri” yn “gam pwysig”.
‘Amatur’
Mae llefarydd economi Plaid Cymru, Adam Price wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o fod yn “amatur”.
“Mae Cylchffordd Cymru wedi dangos agwedd amatur Llywodraeth Cymru at brosiectau buddsoddiadau mawr.
Fe gyhuddodd Lywodraeth Cymru o “wneud cyfres o ddatganiadau camarweiniol” ac o “ymdrin yn wael â buddsoddwyr allweddol”.