Ty'r Cyffredin Llun: PA
Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Simon Hart wedi sicrhau dadl ar fater bygwth gwleidyddion a’r cyhoedd adeg etholiadau.

Bydd y ddadl yn cael ei chynnal yn Neuadd Westminster y prynhawn yma.

Fe ddaw ddiwrnod yn unig ar ôl i Aelod Seneddol Aberconwy, Guto Bebb geisio cyfiawnhau cyhuddo etholwr mewn e-bost o “siarad drwy ei dîn” gan ddweud fod y “lefel o gamdriniaeth, bygythiadau a thrais” tuag at Aelodau Seneddol wedi codi i “lefel annerbyniol”.

Mae grŵp trawsbleidiol yn San Steffan wedi dweud bod angen gwneud mwy i baratoi ymgeiswyr ar gyfer natur ymgyrchoedd etholiadol.

Mae achosion o hiliaeth a bygwth ar gynnydd ers etholiad cyffredinol 2015, yn ôl ymchwiliad trawsbleidiol.

Fe dynnodd yr ymchwiliad sylw at nifer o achosion o fygwth yn ystod yr ymgyrchu diweddar, gan gynnwys honiadau o wrth-Semitiaeth yn erbyn un aelod seneddol.

Roedd aelod seneddol Ceidwadol arall wedi dod o hyd i graffiti oedd yn ei sarhau hi ar sail y ffaith ei bod hi o dras Indiaidd.

Mae’r ymchwiliad wedi nodi bod angen sesiynau diogelwch personol a chyngor gan ymgyrchwyr profiadol ar ymgeiswyr yn y dyfodol.

Mae’r Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur yn beio’i gilydd am y sefyllfa bresennol.

‘Negeseuon tila’

Ar ôl sicrhau dadl yn Neuadd Westminster, dywedodd Simon Hart wrth y Daily Mail: “Yn hytrach na chyhoeddi negeseuon tila ar-lein yn dweud eich bod yn condemnio’r cyfan, mae angen i Jeremy Corbyn wneud rhywbeth am y peth.

“Hyd yn oed pan fo awgrym yn unig o’r math yma o beth, mae angen i Jeremy Corbyn ac arweinwyr Momentum ddweud, ‘Does dim croeso i chi yn ein plaid ni nac i ymgyrchu ar ein rhan ni a gwisgo bathodyn Llafur os mai dyma sut fyddwch chi’n ymddwyn’.”

Mae’r Blaid Lafur wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o ymosod yn bersonol ar ymgeiswyr yn ystod yr ymgyrchu.

Maen nhw’n honni bod y Ceidwadwyr wedi dweud celwyddau am ymgeiswyr, gan gynnwys y llefarydd materion cartref, Diane Abbott.