Papur bro Y Dydd, (Llun: Wikipedia)
Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Rydd Dolgellau heno er mwyn trafod dyfodol papur bro Y Dydd.

Cafodd y rhifyn olaf o’r papur – a gafodd ei sefydlu dros ganrif yn ôl – ei gyhoeddi ddechrau’r mis.

Cwmni Tindle – y cwmni sy’n berchen ar Y Cymro – yw perchnogion y papur hwn hefyd, ac fe ddywedon nhw eu bod nhw wedi penderfynu ei ddirwyn i ben yn dilyn “cyfnod anodd” i’r diwydiant papurau newydd.

Ond fe fydden nhw’n fodlon gwerthu’r papur bro am bris bach, sy’n golygu y gallai’r papur bro barhau ar ffurf papur ac ar y we.

Hanes y papur

Wythnosolyn a gafodd ei sefydlu yn y gogledd gan Samuel Roberts yw Y Dydd.

Papur gwleidyddol a chrefyddol oedd e yn ei hanfod.

Fe unodd yn 1871 â’r Tyst Cymreig wrth i’r Tyst a’r Dydd gael ei sefydlu, ond blwyddyn yn unig a barodd cyn dychwelyd i’r hen enw.

Fe unodd â’r Corwen Chronicle and Border Advertiser yn 1954, cyn dychwelyd i’r enw gwreiddiol unwaith eto yn 1992.