Llun: PA
Mae ymchwiliad fydd yn canolbwyntio ar y cymorth iechyd emosiynol a meddyliol sydd ar gael i blant a phobol ifanc yng Nghymru, wedi cael ei lansio gan un o bwyllgorau’r Cynulliad heddiw.

Nod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yw ystyried a ydy’r rhaglen i newid gwasanaethau’r maes yma ar y trywydd iawn, ac i sicrhau gweithredu’r “newid sylweddol sydd ei angen.”

Daw lansiad yr ymchwiliad yn sgil cyhoeddi adroddiad gan y pwyllgor tair blynedd yn ôl, oedd wedi mynegi pryderon am wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed yng Nghymru.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bwriad i adolygu a moderneiddio’r sustem yn fuan wedi cyhoeddiad yr adroddiad.

Amcanion

“Bydd yr ymchwiliad yn ystyried pa un a yw plant a phobl ifanc yn cael yr help sydd ei angen arnynt, cyn gynted ag y bydd ei angen arnynt,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Lynne Neagle.

“Rydym yn gobeithio clywed gan blant a phobl ifanc sydd wedi defnyddio’r gwasanaethau hyn, yn ogystal â rhieni, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd meddwl ac addysg a phobl sy’n gweithio gyda phlant mewn gofal.”

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan ddydd Gwener,  Medi 29.