Myfyrwyr yn graddio (Clawed CCA 3.0)
Mae arweinydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM Cymru) wedi beirniadu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i godi ffioedd dysgu yn unol â chwyddiant.

Mae Llywydd yr Undeb, Ellen Jones, wedi mynd gam ymhellach gan alw ar Lywodraeth Cymru i amddiffyn ei “holl gyllideb addysg” fel sy’n digwydd gyda’r gyllideb iechyd.

Dywed fod caniatáu i ffioedd dysgu godi yn unol â chwyddiant yn golygu y gallai myfyrwyr yng Nghymru dalu £9,295 y fwyddyn o 2018/19 ymlaen.

“Beth bynnag fydd Llywodraeth Cymru yn ei ddweud, mae cyhoeddiad heddiw yn gwneud y dasg o roi cymorth i fyfyrwyr i gael mynediad i addysg uwch yn anoddach – nid yn haws,” meddai Ellen Jones.

‘Cam yn ôl’

Dywedodd ei bod yn siomedig bod “myfyrwyr yn cael eu defnyddio i ysgwyddo baich” pwysau cyllidebau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Ein hymagwedd at gyllid myfyrwyr yw y dylai Cymru symud yn bragmataidd at addysg sy’n rhydd rhag ffioedd. Wrth ystyried hynny, mae heddiw yn gam mawr yn ôl,” ychwanegodd.

Dywedodd ei bod am weld mwy yn cael ei wneud i gynorthwyo myfyrwyr sy’n astudio’n rhan amser yng Nghymru gan alw hefyd am gyflwyno cynhaliaeth i ôl-raddedigion yn gynt na yn 2019/20.