Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi galw am wybodaeth er mwyn ceisio dod o hyd i fam baban newydd-anedig gafodd ei adael mewn safle bws yn sir Gonwy.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau fod y ferch fach wedi’i chanfod ger tafarn y Magpie and Stump, Towyn tua 7:15yb.

“Rydan ni’n bryderus am iechyd mam y babi, ac yn apelio ati hi i ddod ymlaen drwy gysylltu gyda mi,” meddai llefarydd ar ran y llu. “Rydan ni eisiau sicrhau fod y fam yn derbyn y gofal meddygol y mae arni ei angen.

“Yn yr un modd os ydych chi yn ffrind, yn berthynas neu’n gymydog i’r fam ac yn bryderus amdani hi gallwch chithau hefyd gysylltu efo fi ar yr un rhif.”