Mae Mentrau Iaith Cymru wedi dweud eu bod yn edrych ymlaen “at barhau i hybu a datblygu’r Gymraeg” mewn cymunedau ledled Cymru.

Erbyn hyn mae 22 o fentrau iaith ar hyd a lled Cymru ac yn ôl cadeirydd Mentrau Iaith Cymru, Owain Gruffydd, mae gwaith y mentrau yn “hanfodol” wrth gyfrannu at y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Rydym yn gweld rôl y Mentrau Iaith fel un hanfodol er mwyn cyrraedd y targed hwn, wrth annog pobol i ddysgu a defnyddio’r iaith,” meddai.

“Trwy hwyluso cyfleoedd anffurfiol i bobol gymdeithasu a mwynhau o ddydd i ddydd yn Gymraeg, a chefnogi cymunedau i berchnogi’r iaith, gallwn gynyddu a chryfhau’r defnydd o’r iaith ar draws Cymru.”

“Rydym yn croesawu’r strategaeth uchelgeisiol newydd hon sy’n tanlinellu pwysigrwydd rôl cymunedau i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau’n iaith fyw a ffyniannus,” meddai wedyn.