Suzy Davies
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r Strategaeth Iaith sydd wedi’i lansio gan Lywodraeth Cymru heddiw i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Er hyn, un o’r pethau maen nhw’n pwysleisio yw bod angen creu mwy o gyfleoedd i bobol ddefnyddio’r iaith mewn cymunedau ledled Cymru.

Mae’r Aelod Cynulliad Suzy Davies yn canmol y pwyslais ar ddatblygu addysg Gymraeg – ond mae’n galw am hybu’r Gymraeg ym myd gwaith.

“Rwy’n credu fod y stryd fawr, ac yn ehangach, busnesau yn lle perffaith i annog gweithwyr a chwsmeriaid i ymarfer eu Cymraeg heb y pryder o gael e barnu,” meddai gan ddweud fod hunanhyder yn effeithio’n fawr ar barodrwydd pobol i ddysgu’r iaith.

“Ymhellach na hynny, mae dwyieithrwydd ac ystwythder ieithyddol a sgiliau cyfathrebu gwych yn dod yn fwy gofynnol gan gyflogwyr fydd yn cystadlu mewn byd ar ôl Brexit ble mai amlieithrwydd yw’r norm,” meddai.

Perswadio

“Yn amlwg, y mwyaf o blant sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, neu’n clywed a gweld mwy o Gymraeg fel rhan normal o fywyd yr ysgol, y gwell yw’r gobaith o gynyddu rhuglder ymysg y genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg,” meddai.

Ychwanegodd y bydd llwyddiant y strategaeth yn “dibynnu ar berswadio unigolion a chymunedau gwahanol pam ei bod i’n werthfawr i fod yn ddwyieithog, ac i gael sgiliau yn y ddwy iaith”.