Aidan Dominic McNicholl (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae heddlu wedi enwi beiciwr modur fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ger Cerrigydrudion ddydd Sul, Gorffennaf 9.

Bu farw Aidan Dominic McNicholl, 36, yn y fan a’r lle yn dilyn gwrthdrawiad rhwng ei feic modur a fan, ar yr A5.

Cafodd gyrrwr y VW Transporter, dyn 46 mlwydd oed, ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal ond bellach mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Roedd  Aidan McNicholl o ardal Bromborough, yn gweithio fel Radiograffydd yn Ysbyty Walton, ac yn “fab, brawd a chariad cariadus” yn ôl ei deulu.

“Dyn Caredig”

“Roedd Aidan yn ddyn caredig ac ystyrlon oedd yn fodlon mynd yn bell iawn dros ei ffrindiau a’i gydweithwyr,” meddai ei deulu mewn datganiad. “Roedd yn cael ei garu’n fawr gan ei nithoedd a’i neiaint.”

“Roedd yn mwynhau beicio mynydd, beiciau modur a chrefft ymladd. Roedd o hefyd yn gefnogwr o Everton trwy gydol ei oes. Bydd ei golled yn fawr i bawb.”

Mae’r ymchwiliad yn parhau a dylai unrhyw un welodd y gwrthdrawiad gysylltu gyda swyddogion Heddlu Gogledd Cymru.