Guto Bebb
Mae Aelod Seneddol Aberconwy wedi amddiffyn ei sylwadau wedi iddo gyhuddo etholwr o “siarad drwy ei din” mewn ebost.

Mewn datganiad heddiw mae Guto Bebb yn dweud y byddai’n “ysgrifennu’r un llythyr eto” gan ychwanegu fod y “lefel o gamdriniaeth, bygythiadau a thrais” tuag at Aelodau Seneddol wedi codi i “lefel annerbyniol”.

Mewn erthygl ar wefan y Daily Post ddoe (ddydd Llun) roedd yr etholwr Eurwyn Thomas yn dweud ei fod wedi’i synnu gan ymateb yr Aelod Seneddol o ystyried ei “statws etholedig”.

Mae’r wefan yn adrodd i’r etholwr holi’r AS am ei record pleidleisio ynglŷn â gwaredu’r cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus ynghyd â’i holi am y ddêl rhwng y Ceidwadwyr a’r DUP.

Fe wnaeth Eurwyn Thomas rannu llun o’r llythyr a dderbyniodd oddi wrth Guto Bebb ar wefan gymdeithasol Facebook dros y penwythnos, ac roedd yn cynnwys y sylwadau hyn:

“Diolch am eich ebost plentynnaidd. Ymddengys na ddylech boeni am eich twll tin – mae’n amlwg yn fyw ac yn iach gan eich bod yn siarad trwyddo.”

‘Ymadrodd cyffredin’

Yn ei ddatganiad heddiw, mae Guto Bebb yn esbonio bod “siarad drwy eich tin” yn “ymadrodd cyffredin” yn y Gymraeg.

“Am hynny,” meddai, “dywedais wrth Mr Thomas ei fod yn amlwg yn dal efo’i un o [twll tin] am ei fod yn siarad drwyddo. Byddwn i’n ysgrifennu’r un llythyr eto.”

Doedd Guto Bebb ddim yn fodlon gwneud sylw i’r stori ddoe. Yn hytrach, roedd yn cyfeiriodd pobol at ei erthygl newyddion wythnosol oedd yn sôn am gamdriniaeth tuag at Aelodau Seneddol.

‘Lefel annerbyniol’

“Ers yr Etholiad Cyffredinol mae’r lefel o gamdriniaeth, bygythiadau a thrais, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol, wedi gwaethygu i lefel annerbyniol,” meddai Guto Bebb.

“Fel gweithiwr cyhoeddus, dw i’n gofyn, pam y dylwn i fod yn destun camdriniaeth gyson ar-lein ac ebyst dialgar, sbeitlyd ac anghwrtais? A fyddai meddyg neu athro yn disgwyl bared o’r fath gamdriniaeth?” meddai.

“Rwy’n gohebu â channoedd o etholwyr bob mis ond, fel ASau eraill, ni fyddaf bellach yn delio ag ebyst anghwrtais a sarhaus gyda dim byd llai na dirmyg.”