Meillionydd
Mae archeolegwyr yn gwahodd pobol i weld cloddfa “unigryw” ar safle hen blasdy ym Mhen Llŷn.

O ddydd Sadwrn nesaf ymlaen (Gorffennaf 15) fe fydd ymwelwyr yn gallu mynd ar daith gerdded o gwmpas Meillionydd ger pentref Y Rhiw, a gweld rhai o’r eitemau sydd wedi’u darganfod ar y safle.

Anheddiad o’r Oes Efydd Hwyr/Oes yr Haearn sydd ar y safle, ac mae’n debyg bod arbenigwyr wedi darganfod tystiolaeth bod y trigolion hynafol yno yn gallu cynhyrchu gwydr.

Mae archeolegwyr, myfyrwyr a gwirfoddolwyr wedi bod yn cloddio yno ers 2010 dan arweiniad yr Athro Raimund Karl, Dr Kate Waddington a Katharina Möller o Brifysgol Bangor.